Gormod o Newyddion Da!
Helo bawb, rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi ein bod ni o’r diwedd wedi dechrau partneru â Klarna, yr ap prynu nawr, talu’n ddiweddarach. Mae’n ei gwneud hi’n haws i chi siopa gyda ni.
Pan fyddwch chi’n cyrraedd y dudalen dalu, bydd gennych chi’r opsiwn i dalu gyda Klarna. Os nad oes gennych chi gyfrif yn barod, bydd angen i chi sefydlu cyfrif ar-lein. Mae hwn yn opsiwn credyd hynod o hawdd i bobl fyddai’n well ganddyn nhw rannu cost eu nwyddau garddio newydd.
Hefyd yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn ystyried cyfieithu’r wefan gyfan i’r Gymraeg. Syniad yn unig ydyw ar hyn o bryd, ond byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn. Bydd hyd yn oed enwau’r planhigion yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg. Gwych, tydi! Ydych chi’n dweud ‘Ie’ neu ‘Na’? Gadewch sylw os gwelwch yn dda.
Fe wna i geisio peidio â’ch llethu â gormod o newyddion da, ond mae ein siop Nadolig bellach ar agor! Edrychwch ar Christmas City
Mae gennym hefyd restr hollol newydd o eitemau ar gael yn ein hadran Sêl yr Hydref. Manteisiwch ar y cyfle tra gallwch.
Os hoffech gael y newyddion diweddaraf am gynnyrch newydd Garden City Cymru, dilynwch ni ar Facebook ac Instagram
GARDEN CITY CYMRU
Tan y tro nesaf, garddio hapus!