Beth alla i ei ddefnyddio i fwydo fy mhlanhigion?
Y rheol euraid yw bwydo’r pridd, nid y planhigyn. Wrth ddefnyddio gwrteithiau artiffisial, maent yn gweithio fel ‘ateb sydyn’. Mae bron fel petai rhywun dros ei bwysau’n cymryd tabledi colli pwysau. Ni fydd gwrteithiau’n cadw’ch planhigion yn iach yn y tymor hir. Os rhywbeth, maent yn niweidio strwythur y pridd, yn peri i blanhigion dyfu’n sydyn, ac yna’n arwain at farw’r planhigyn yn gynt, yn enwedig blodau neu blanhigion tymhorol. Problem arall gyda gwrteithiau artiffisial yw eu bod yn cyfrannu at erydiad pridd a llygredd dŵr.
Y tri phrif faetholyn sydd eu hangen ar blanhigion yn eich gardd yw nitrogen (N), ffosfforws (P) a photasiwm (K). Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio’r triawd a elwir yn NPK. Maetholion pwysig eraill yw calsiwm, magnesiwm a sylffwr.
Mae yna hefyd wahanol fathau o bridd ar gyfer gwahanol blanhigion ac ar wahanol gamau. Er enghraifft, bydd hadau a thoriadau’n tyfu orau mewn pridd mân ac ysgafn; mae rhai planhigion yn tyfu’n dda mewn pridd asidig neu alcalïaidd, ac mae rhai’n tyfu’n dda mewn pridd clai. Dyma rai enghreifftiau o ffyrdd cynaliadwy o fwydo planhigion eich gardd yn y DU.
Nitrogen
Mae nitrogen yn dda am gadw dail gwyrdd yn iach. I gynyddu lefelau nitrogen yn y pridd, ychwanegwch..
- Toriadau gwair
- Tail anifeiliaid
- Gweddillion coffi a ddefnyddiwyd
- Deunydd organig
- Wrin (ie, pî-pî yn yr ardd)
- Gweddillion coffi mâl a ddefnyddiwyd
Ffosfforws
Mae ffosfforws yn helpu’r planhigyn i amsugno egni o’r haul. Ffotosynthesis yw enw’r broses hon. Ffotosynthesis sy’n peri i bob rhan o’r planhigyn dyfu, gan gynnwys y gwreiddiau a’r blodau/ffrwythau. I gynyddu ffosfforws yn y pridd, ychwanegwch....
- Bwyd dros ben sy’n llawn protein.
- madarch
- Mwydod.
Potasiwm
Mae potasiwm yn bwysig iawn ar gyfer tyfiant blodau a bwyd. I ychwanegu potasiwm at bridd eich gardd, cynhwyswch y rhain yn eich cymysgedd compost...
- Bwyd dros ben fel ffrwythau sych, ffa, corbys, tatws, croen banana, watermelon, pwmpen cnau menyn, betys a llysiau gwyrdd tywyll.
- Lludw pren.
- Y mathau cyffredin o greigiau ym Mhrydain a all gynnwys llawer iawn o botasiwm yw gwenithfaen, pwmis, obsidian, gneiss, greisen, siist, llechen, siâl, syenit, halen craig a thrachyt.
I wneud eich pridd yn fwy asidig, ychwanegwch....
- Gweddillion coffi a ddefnyddiwyd
- Finegr gwyn wedi’i wanhau â dŵr mewn cymhareb 1:10
Sut i wneud eich pridd yn fwy alcalïaidd: ychwanegwch...
- Lludw pren a bioolosg
- Calchfaen mâl.